Cyflogwyr
Fe fydd y Construction Youth Trust yn:
- Darparu cyfleoedd profiad gwaith sy'n seiliedig ar adeiladu ledled Cymru (adeiladu yw sector cyflogaeth mwyaf y DU).
- Cefnogi cyflogwyr a phobl ifanc trwy leoliadau gwaith sy'n seiliedig ar adeiladu, gan gytuno ar gynllun datblygu ar sail gwaith a chefnogi datblygiad.
- Cynnig y cyfle i bob person ifanc ar y rhaglen (adeiladu neu fel arall) i ennill Open College Network level 1 Award yn ystod eu lleoliad gwaith i gefnogi'u sgiliau hanfodol a datblygu sgiliau cyflogadwyedd.
- Darparu hyfforddiant i gyflogwyr (adeiladu neu fel arall) er mwyn sicrhau fod lleoliadau profiad gwaith o ansawdd digonol i alluogi'r rheini sy'n hyfforddi i ennill y Dystysgrif.
- Dal dysgu o'r rhaglen er mwyn lywio polisi.
Bydd GISDA yn creu rhaglen person-ganolig wedi ei deilwro ar gyfer rhai fydd yn cymeryd rhan yn Symud Ymlaen i'w paratoi a'u cefnogi i fewn i waith. Byddwn yn cyd-weithio efo unigolion ar sgiliau hanfodol, adeiladu hyder a datblygu personol. Bydd y dysg yn cael ei achredu drwy Agored Cymru.
Trwy ddysgu gyda Learning 4 Life, fe fydd Llamau yn darparu rhaglen o weithgareddau dysgu diddorol i bob cyfranogwr fydd wedi'i dylunio i adeiladu hyder, i ddatblygu sgiliau ac i baratoi unigolion ar gyfer y byd gwaith. Fe fyddwn yn cynnig gwobreuon Agored Cymru a City & Guilds yn ogystal â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru. Fe fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth â'r cyfranogwyr i nodi'u hamcanion dysgu ac i'w cefnogi nhw i'w cyrraedd.